Thema celf: hunaniaeth

Mae artistiaid yn cysidro’n ofalus sut mae mynegi hunaniaeth wrth greu delwedd o berson – boed yn ddelwedd o’u hunain neu o rywun arall. Mae’n bwysig ystyried sut gallwn gyfleu personoliaeth, rhinweddau, diddordebau a chredoau person mewn darn o waith celf. Sut gall artist ddangos y pethau sy’n bwysig i’r person? Sut gall artist helpu’r gwylwyr ddeall profiadau, diwylliant a chefndir y person?

Mae yna nifer o ffyrdd y gall artistiaid roi mewnwelediad i hunaniaeth unigolyn. Er enghraifft, mewn celfyddyd ffigurol, gall artistiaid ddefnyddio elfennau fel dillad, gwallt a chyfwisgoedd, yn ogystal â’r olwg ar wyneb rhywun, eu hystumiau ac osgo’r corff. Gall y gwrthrychau a’r cefndir hefyd helpu i ddatgelu hunaniaeth y person.

Cefndir cyd-destunol i athrawon

Auto-Portrait (1992)
Chila Kumari Singh Burman (g.1957)

Cyfrwng: argraffiad chwistrell ar bapur gydag addurniadau
Dimensiynau: uchder 158.2 x lled 82 cm

Mae Auto-Portrait yn bortread – neu’n hunanbortread – o Chila Kumari Singh Burman, ac mae’n un anarferol, wedi ei wneud allan o nifer o luniau llai y tynnodd yr artist ohoni ei hun. Fe gymerodd hi dros ddeng mlynedd i greu’r gwaith hwn. Ganwyd yr artist ym Mhrydain i deulu Pwnjabaidd, ac mae hi’n cyflwyno ei hetifeddiaeth Indiaidd yn ei gwaith, gan archwilio sut mae menywod De Asiaidd yn cael eu cynrychioli. Mae Burman wedi tynnu lluniau ohoni hi ei hun (gyda chamera) wedi gwisgo fel gwahanol bobl. Bwriad pob un llun yw cynrychioli gwahanol fath o fenyw. Mae pob delwedd wedi’i steilio, o safbwynt gwallt, dillad, colur ac ategolion. Mae hyn yn galluogi Burman i ailddyfeisio’i hun fel ystod o gymeriadau y mae hi’n gallu eu perfformio tra’n parhau i fod yn un person cyflawn.

Mae Auto-Portrait yn nifer o hunanbortreadau ac yn un hunanbortread ar yr un pryd, ond mae pob un portread sydd ynddo yn herio’r farn draddodiadol o’r hyn y gall neu y dylai menyw fod. Mae Burman am i chi feddwl am y ffyrdd y caiff menywod eu dangos mewn portreadau, boed yn ffotograffau neu’n baentiadau, a phwy sy’n penderfynu ar hyn. Mae hi am reoli ei delwedd ei hun.

Nodwch sut mae Burman yn dod ag ychydig o ddisgleirdeb Bollywood i’r argraffiad ffotograffig hwn drwy gynnwys secwins a bindis. Mae hi’n hoffi cyfuno nifer o dechnegau mewn un gwaith celf – gelwir hyn yn ‘cyfrwng cymysg'.

Edrych, disgrifio a thrafod

Agorwch fersiwn sgrin gyfan o’r llun y gallwch ei chwyddo mewn ffenestr newydd.

Gofynnwch i’ch disgyblion ddisgrifio’r gwaith celf. Anogwch nhw i ddweud yn syml iawn beth maen nhw’n gallu ei weld.

Gallwch ddechrau drwy ddangos y llun cyfan ac yna chwyddo’r darlun i archwilio’r manylion. Neu gallwch ddechrau drwy ddefnyddio’r nodwedd chwyddo i ddangos un manylyn cyn tynnu’r ffocws allan i weld mwy o’r llun.

Anogwch eich disgyblion i edrych yn ofalus – dyma yw ‘grym y gweld’! Mae’n well peidio rhoi gormod o wybodaeth gefndirol eto, er mwyn i’r disgyblion allu datblygu eu syniadau a’u barn eu hunain.

Mae disgrifiad sain o’r gwaith celf ar gael, yn ogystal â thrawsgrifiad llawn ohono y gallwch hefyd ei ddefnyddio i ddisgrifio’r gwaith celf.

Cwestiynau annog

Edrychwch ar y gwaith celf eto a gofynnwch gwestiynau mwy penodol (er mwyn ‘annog’):

  • Sawl ffigwr gallwch chi weld yn y gwaith celf hwn? Ydych chi’n gweld yr un ffigwr yn cael ei ailadrodd?
  • Beth ydych chi’n sylwi arno wrth edrych yn agosach ar y ffigyrau llai?
  • Ydy hwn yn bortread realistig? Pam/pam ddim?
  • Sut mae’r lliwiau sydd yn y gwaith yn gwneud i chi deimlo? Pam?

Cwestiynau o Becyn Grym y Gweld

Gallwn nawr archwilio ‘elfennau’r’ gwaith celf.

Ar gyfer y gwaith celf hwn, byddwch chi'n canolbwyntio ar yr elfennau canlynol o'r Pecyn Grym y Gweld (Saesneg yn unig):

  • Cyfansoddiad
  • Lliw
  • Ffigyrau

Gofynnwch i’ch disgyblion roi tystiolaeth i gefnogi eu sylwadau:

  • ble yn union maen nhw’n edrych wrth wneud eu pwynt?
  • ydy pawb yn gallu gweld beth maen nhw’n ei weld?
  • arafwch, cymerwch eich amser i edrych yn ofalus

Wrth ofyn y cwestiynau hyn, gallwch gyflwyno gwybodaeth o’r ‘Cefndir cyd-destunol i athrawon’. Mae ymatebion defnyddiol hefyd i’w cael yn y nodiadau i athrawon.

Pawb yn dysgu

Gallwch ddarganfod mwy am ddull anghenion dysgu ychwanegol (ADY) Grym y Gweld ar hafan Grym y Gweld.

Nawr mae’n bryd edrych ar y gwaith celf mewn ffyrdd gwahanol. Mae’r rhestr hon o weithgareddau synhwyraidd yn annog disgyblion i gymhwyso eu dysgu, ac mae’n addas ar gyfer nifer o anghenion dysgu.

Creu
Rydym yn awgrymu gweithgareddau creadigol i bob dysgwr, gan gynnwys opsiwn cyffyrddol i gefnogi disgyblion sydd ag amhariad ar y golwg: mae’r gweithgareddau hyn yn archwilio nodweddion cyffyrddol defnyddiau, yn ogystal â marciau ystumiol, er mwyn archwilio’r gwaith celf ymhellach.

  • Gofynnwch i ddisgyblion ddewis ffotograff o’u hunain. Cymerwch lungopi o’r lluniau a gwnewch nifer o gopïau du a gwyn. Gall y disgyblion ddarlunio ar y llungopïau gyda phastelau olew, gan ychwanegu dillad neu ategolion sy’n cynrychioli agweddau gwahanol o’u bywydau, fel dillad chwaraeon, gwisg dawnsio, dillad crefyddol neu hoff ffasiynau. Nesaf, gofynnwch i’r disgyblion rhoi’r holl bapurau at ei gilydd er mwyn creu un portread mawr. Pan fydd y disgyblion yn hapus gyda’r cyfansoddiad, gludwch y cyfan ar ddarn mawr o bapur. Anogwch nhw i feddwl am sut mae’r cyfansoddiad gorffenedig yn ailadrodd lliwiau a siâp. 
  • Opsiwn cyffyrddol: plygwch ddarn o bapur A4 yn bedwar. Gorchuddiwch bob chwarter gyda marciau i gynrychioli agweddau gwahanol eich personoliaeth. (Ydy’r marciau’n ddotiau, yn streipiau, yn sgribl neu’n sbiralau? Ydyn nhw’n denau neu drwchus? Wedi eu creu gyda phen, pensil neu greon?) Torrwch neu rhwygwch y papur yn stribedi tua 1 cm o led a 10 cm o hyd. Rhowch lud ar un stribed o bapur a’i lapio o amgylch fand elastig er mwyn creu glain. Defnyddiwch fandiau elastig sy’n ddigon mawr i fynd o amgylch arddwrn. Gwnewch yr un peth eto nes bod tua 10 glain o amgylch y band elastig, neu nes bod y band yn llawn.

 

Profiad

  • Casglwch wahanol fathau o freichledi a’u gwisgo fel yr artist yn ei hunanbortread. Sut mae’n teimlo pan fo’r breichledi yn symud ar arddynau’r disgyblion ac wrth iddyn nhw bwyso eu pen ar eu dwylo. Ystyriwch bwysau, sain a gwead y breichledi. Ydyn nhw’n teimlo’n gynnes neu’n oer ar y croen?
  • Gwrandewch ar y disgrifiad sain o’r gwaith celf.

 

  • Gwrandewch ar gerddoriaeth o Sinema Hindi (Bollywood) gyda’ch dosbarth, gan ddefnyddio’r rhestr isod o ganeuon poblogaidd o’r 1970au.

 

Cyfathrebu

  • Gofynnwch i’r disgyblion feddwl am un agwedd o’u personoliaeth (er enghraifft, ydyn nhw’n hyderus, swil, doniol, yn hoff o chwaraeon?). Heriwch nhw i gyfathrebu’r agwedd hon drwy osgo’r corff neu’r olwg ar eu hwynebau, heb siarad.
  • Gofynnwch i’r disgyblion ddewis un ffigwr o’r gwaith celf. Yna, rhaid i’w partner, sy’n cael siarad, ofyn cwestiynau er mwyn dyfalu pa ffigwr maen nhw wedi ei ddewis. Rhaid iddyn nhw ofyn cwestiynau sydd ag ie/na fel ateb (fel y gêm fwrdd Guess Who?). Faint o gwestiynau sydd eu hangen er mwyn dyfalu’r ateb cywir?
  • Dysgwch yr arwydd Makaton am ‘fi’.  

Y cam olaf: adolygu

Gofynnwch i’ch disgyblion wneud y canlynol:

  • rhannu eu llyfrau braslunio mewn grwpiau a thrafod yr 'elfennau' y maen nhw wedi eu hadnabod
  • dewis yr elfen/agwedd sydd fwyaf diddorol iddyn nhw am y gwaith celf a’i gofnodi yn eu llyfrau braslunio
  • dewis teitl eu hunain ar gyfer y gwaith celf
  • meddwl am gwestiwn yr hoffen nhw ofyn i’r artist

 

Llongyfarchiadau!

Rydych chi wedi cwblhau’r adnodd gwers hwn ar Rym y Gweld.

Mae mwy o adnoddau yn y thema hon i chi roi cynnig arnyn nhw – edrychwch ar yr adran ‘gwersi nesaf’ isod.


Do you know someone who would love this resource?
Tell them about it...

More The Superpower of Looking resources

See all