'Auto-Portrait' gan Chila Kumari Singh Burman
Mae’r clip sain yma’n disgrifio’r gwaith celf Auto-Portrait (Awto-Bortread) gan Chila Kumari Singh Burman (g.1957).
Crëwyd y clip i’w ddefnyddio fel rhan o’n hadnodd ysgol gynradd, Grym y Gweld, er mwyn cefnogi disgyblion sydd yn ddall neu sydd ag amhariad ar y golwg i gymryd rhan yn y gwersi.
Archwiliwch y gwaith celf ymhellach gyda’n hadnodd, Hunanbortread Celfyddyd Bop gan Chila Kumari Singh Burman.
This resource is also available in English. | Mae’r adnodd hwn ar gael yn Saesneg hefyd.
Testun disgrifiad sain llawn
Sain ddisgrifiad, Auto-Portrait (Awto-Bortread).
Mae Auto-Portrait a grëwyd yn 1992, yn “hunlun” trawiadol o’r artist Chila Kumari Singh Burman, a argraffwyd ar bapur. Mae e tua 1.5 metr o uchder ac ychydig llai na metr o led, gydag ymyl gwyn cul o’i amgylch. Mae wyneb y fenyw ifanc yn sefyll allan yn siarp yn erbyn y cefndir du.
Mae hi’n gwisgo het gron gyda chantel llydan; mae hi’n dal ei hwyneb yn ei dwylo ac yn edrych yn syth aton ni. Mae pob centimedr o’i chroen a hyd yn oed ei het wedi gorchuddio gydag ail groen – clytwaith o luniau lliwgar o fenywod Asiaidd. Mae rhai’n gwisgo gwisg draddodiadol, tra bod eraill yn llawn ‘bling’ Bollywood disglair. Mae bron bob un yn gwisgo rhyw fath o benwisg – un ai gorchudd neu het – ac maen nhw’n edrych allan aton ni y gwylwyr, hefyd.
Mae’r artist yn gwisgo colur tywyll o amgylch ei llygaid. Mae ei llygaid, ei thrwyn a’i cheg wedi’u cuddliwio gan y portreadau llai o faint, sydd tua un neu ddau gentimetr sgwâr ac yn lliwgar iawn – gyda phinc a melyn neon, gwyn ac ambell i fflach o las a gwyrdd. Mae’r lliwiau prydferth hyn yn cyd-fynd gyda’r breichledi mae hi’n eu gwisgo. Mae’r breichledi fel petaent wedi disgyn i lawr ei breichiau tuag at ei phenelinoedd wrth iddi ddal ei breichiau i fyny i orffwys ei hwyneb yn ei dwylo.
Wrth frig y llun, mae stribedi cul o ludwaith, fel pelydrau o olau yn saethu o’i het tuag at y ffrâm. Mae ei gwallt tywyll bron yn amhosib i’w weld o flaen y cefndir tywyll, ac mae ei het fel petai’n hofran uwch ei phen. Mae’r artist, er bod ei gwefusau ar gau yn dal i wenu ychydig, ac mae ganddi olwg drygionus, fel petai’n gwybod yn iawn pa effaith mae hi’n ei gael.